Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 2 Rhagfyr 2014

 

Amser y cyfarfod:
13.30

 

 

 

 

Agenda

(234)v3

 

<AI1>

1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

 

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes  

 

</AI2>

<AI3>

3 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Cyflwyno'r Bil Cymwysterau Cymru (60 munud)

 

</AI3>

<AI4>

4 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Gwyddoniaeth yng Nghymru - Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf (30 munud)

 

</AI4>

<AI5>

5 Dadl: Effaith y Polisi Caffael yng Nghymru (60 munud)

NDM5640 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:

 

1. Yn nodi:

 

a) yr effaith a gafwyd ar gaffael cyhoeddus ers lansio Datganiad Polisi Caffael Cymru ym mis Rhagfyr 2012;

 

b) y bydd Datganiad Polisi Caffael Cymru yn cael ei adolygu i fanteisio ar y newidiadau sydd ar fin digwydd i ddeddfwriaeth caffael yn yr UE a'r DU.

 

I weld Datganiad Polisi Caffael Cymru, ewch i'r linc a ganlyn: http://wales.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2012/welshprocurement/?skip=1&lang=cy

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn cydnabod:

 

a) yr effaith gadarnhaol y gall cynyddu cyfran y tendrau yn y sector cyhoeddus a gaiff eu dyfarnu i gwmnïau o Gymru ei chael ar yr economi a'r farchnad lafur;

 

b) cyfrifiad Gwerth Cymru y bydd pob cynnydd o 1% yng nghyfran y tendrau yn y sector cyhoeddus a gaiff eu dyfarnu i gwmnïau o Gymru yn creu 2,000 o swyddi newydd.

 

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fanteisio ar y newidiadau yn rheolau caffael yr UE ac anelu at ddyfarnu o leiaf 75% o dendrau sector cyhoeddus i gwmnïau o Gymru.

 

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu i'w gwneud yn orfodol bod sefydliadau yn y sector cyhoeddus yn dilyn polisi caffael Llywodraeth Cymru.

 

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru ddarparu diweddariadau rheolaidd ynghylch y broses o fabwysiadu Datganiad Polisi Caffael Cymru gan awdurdodau lleol a'r contractau y maent yn eu dyfarnu.

 

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu at y gyfran isel o gontractau sy'n mynd i gwmnïau sydd â phencadlys yng Nghymru.

 

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol bod cyrff cyhoeddus yn asesu'r economi leol cyn penderfynu sut y dylai contractau caffael cyhoeddus gael eu bwndelu.

 

</AI5>

<AI6>

6 Dadl: Adroddiad Blynyddol 2014 ar y Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau (60 munud)

NDM5641 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran gweithredu'r strategaeth camddefnyddio sylweddau 'Gweithio gyda'n Gilydd i Leihau Niwed' fel y manylir arno yn adroddiad blynyddol 2014.

 

I weld adroddiad blynyddol 2014 ar y strategaeth camddefnyddio sylweddau, ewch i'r linc a ganlyn:

http://wales.gov.uk/topics/people-and-communities/safety/substancemisuse/publications/strategy0818/?skip=1&lang=cy

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyflogwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus yn cefnogi gweithwyr sydd â phroblemau mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau drwy ymyrraeth gynnar a chefnogaeth i gynnal cyflogaeth.

 

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn llongyfarch arloeswyr therapi dibyniaeth a dulliau sy'n seiliedig ar adfer yng Nghymru.

 

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu at oedi Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno gwasanaethau haen 4 ar gyfer adsefydlu preswyl a gwasanaethau dadwenwyno cleifion mewn ysbytai ar sail gynaliadwy a thymor hir yng Nghymru.

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn croesawu cyhoeddi adroddiad y Swyddfa Gartref 'Drugs: International Comparators' ac yn credu mai'r ffordd orau o helpu defnyddwyr cyffuriau yw drwy drin camddefnyddio sylweddau fel mater iechyd yn bennaf yn hytrach na mater troseddol.

 

Mae'r adroddiad hwn ar gael yn:  https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/368489/DrugsInternationalComparators.pdf (Saesneg yn unig)

 

</AI6>

<AI7>

7 Cyfnod Pleidleisio 

</AI7>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 3 Rhagfyr 2014

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>